Skip to content

Cymorth gyda’r menopos yn y gwaith

Dysgwch fwy am y menopos a chael arweiniad ar greu gweithle cadarnhaol a chynhwysol i gefnogi gweithwyr.

Neidio'r tabl cynnwys

Pam mae'r menopos yn bwysig

Mae tua 8 o   bob 10 menyw sy’n mynd trwy’r menopos mewn gwaith (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).

Cefnogi gweithwyr sy’n mynd trwy’r menopos yw’r peth iawn i’w wneud – ac mae’n bwysig hefyd er mwyn parhau i gydymffurfio’n gyfreithiol a chreu gweithle llwyddiannus, ffyniannus.

Gallai diffyg cymorth gyda’r menopos arwain at:

  • Fwy o absenoldeb neu bresenoliaeth (yn bresennol ond nid yn gwbl gynhyrchiol)
  • Effeithiau negyddol ar iechyd i weithwyr
  • Hawliadau gwahaniaethu yn erbyn y sefydliad
  • Anhawster o ran cadw a denu staff
  • Risgiau i enw da eich sefydliad
  • Colli elw

Mae ein poster defnyddiol, ‘Deall y Menopos’ yn dangos symptomau’r menopos ac ystadegau ar gyfer gweithlu Cymru.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Dau gydweithiwr yn siarad â'i gilydd mewn warws.