
Cymorth gyda’r menopos yn y gwaith
Dysgwch fwy am y menopos a chael arweiniad ar greu gweithle cadarnhaol a chynhwysol i gefnogi gweithwyr.
Deall y menopos a’i symptomau
Mae’r menopos yn broses heneiddio naturiol a brofir gan fenywod wrth i lefelau oestrogen ostwng. Fel arfer mae’n digwydd rhwng 45 a 55 oed ond gall ddigwydd y tu allan i’r ystod oedran hon.
Efallai y bydd rhai menywod yn sylwi ar symptomau yn eu 20au neu 30au yn ystod y perimenopos. Dyma’r cyfnod pan fydd symptomau’r menopos yn ymddangos, ond nid yw’r mislif wedi stopio eto. Gall y symptomau hyn barhau am nifer o flynyddoedd.
Gall y menopos effeithio ar ddynion traws, pobl anneuaidd a rhai menywod traws hefyd. Felly, mae’n bwysig cael arferion gweithle cynhwysol i gefnogi pawb.
Nid yw profiadau menywod i gyd yr un fath. Mae’n bwysig cynnig cefnogaeth sy’n diwallu anghenion unigryw pob unigolyn.
Gall symptomau cyffredin y menopos – fel pyliau o wres, blinder, aflonyddwch cwsg, poen yn y cymalau a niwl meddwl – effeithio’n sylweddol ar gynhyrchiant, presenoldeb a llesiant yn y gwaith.
Mae astudiaethau’n dangos y gall y menopos arwain at:
- Hyder is
- Problemau rheoli amser
- Problemau cof
- Llai o gynhyrchiant
- Newid mewn hwyliau
- Gorbryder
- Hunan-barch isel
Dysgwch fwy am symptomau drwy ymweld ag adnoddau Cymdeithas Fawcett (Saesneg yn unig) a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (Saesneg yn unig).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025
