Skip to content

Cymorth gyda’r menopos yn y gwaith

Dysgwch fwy am y menopos a chael arweiniad ar greu gweithle cadarnhaol a chynhwysol i gefnogi gweithwyr.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwyr, dyma rai strategaethau y gallwch eu mabwysiadu i helpu i gefnogi gweithwyr sy’n mynd trwy’r menopos:

Creu diwylliant cefnogol yn y gweithle

Mae normaleiddio sgyrsiau am y menopos yn bwysig i bob gweithiwr. Mae hyn yn cynnwys menywod sy’n mynd trwy’r menopos neu’n agosáu ato, menywod iau a gweithwyr gwrywaidd.

Arwain drwy greu amgylchedd cynhwysol ac agored. Annog trafodaethau am y menopos a sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) wedi creu canllaw, Menstruation, Menstrual Health and Menopause in the Workplace (Saesneg yn unig), sy’n rhoi cyngor clir i gyflogwyr ar gyfer cefnogi’r menopos yn y gweithle.

Mae BSI hefyd wedi creu The Little Book of Menstruation, Menstrual Health (Saesneg yn unig) and Menopause, sy’n cynnig awgrymiadau hawdd ar gyfer creu amgylchedd gwaith cefnogol.

 

Rhoi polisïau cadarn ar waith

Datblygu neu ddiweddaru polisïau yn y gweithle i ymdrin â materion sy’n ymwneud â menopos. Mae hyn yn cynnwys rheoli absenoldeb, gweithio hyblyg ac addasiadau rhesymol.

Mae gan Busnes yn y Gymuned becyn Cymorth Menopos yn y Gweithle. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer AD, ac ymarferwyr llesiant ac iechyd galwedigaethol.

Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn cynnig gweminarau, adnoddau cyfraith cyflogaeth ymarferol a chanllaw ar reoli’r menopos yn y gweithle (Saesneg yn unig).

Cynnig hyfforddiant i’r holl staff

Darparu hyfforddiant cynhwysfawr i bob gweithiwr, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i reolwyr llinell. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo’n hyderus wrth gael sgyrsiau cefnogol, rhoi’r cymorth cywir a chynnig newidiadau angenrheidiol yn y gwaith.

Sicrhau bod pob gweithiwr yn gallu cael gafael ar wybodaeth a mynychu sesiynau ymwybyddiaeth am y menopos.

I ddysgu mwy am y broses heneiddio naturiol hon, mae Menopause Matters (Saesneg yn unig) yn cynnig gwybodaeth gyfoes am yr hyn sy’n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y menopos.

Gwneud addasiadau i’r gweithle

Gwneud newidiadau ymarferol, fel gwella awyru, mynediad at ddŵr yfed a chreu patrymau gwaith hyblyg. Gall y newidiadau hyn wneud eich gweithle yn fwy cyfforddus.

Mae’r Gyfadran Meddygaeth Galwedigaethol (FOM) yn darparu arweiniad ar y menopos a’r gweithle (Saesneg yn unig). Mae’n rhoi awgrymiadau ymarferol i wella amgylcheddau gweithleoedd.

Dechrau ymgyrch codi ymwybyddiaeth

Codi ymwybyddiaeth gydag ymgyrchoedd iechyd. Gall hyn helpu i leihau stigma ac annog sgyrsiau agored am y menopos.

Darganfyddwch fwy am Fis Ymwybyddiaeth Menopos.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Dau gydweithiwr yn siarad â'i gilydd mewn warws.