Skip to content

Cyngor llifogydd ar gyfer gweithleoedd

Cyngor ar baratoi ar gyfer llifogydd, aros yn ddiogel yn ystod argyfwng a ble i gael cymorth a chefnogaeth.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae gan gyflogwyr rôl bwysig wrth greu amodau sy’n ei gwneud hi’n haws i weithwyr gadw’n ddiogel ac yn iach yn ystod llifogydd.

Mae camau gweithredu sy’n cefnogi tegwch a diogelwch yn cynnwys:

Darparu gwybodaeth glir am ddiogelwch llifogydd a gweithdrefnau argyfwng

Gwnewch yn siŵr bod staff yn gwybod beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, gan gynnwys llwybrau gwacáu a mannau cyfarfod diogel.

Byddwch yn ofalus wrth lanhau – gall dŵr llifogydd gynnwys carthffosiaeth neu gemegau.

Datblygu cynllun ymateb cynhwysol i lifogydd

Ystyriwch anghenion penodol gweithwyr anabl, gan gynnwys cymorth symudedd, trafnidiaeth hygyrch, neu offer meddygol.

Annog staff i baratoi’n bersonol

Rhannwch ganllawiau ar gadw cyflenwadau brys fel meddyginiaeth, dillad cynnes a dogfennau pwysig mewn bag gwrth-ddŵr.

Cynllunio ar gyfer teithio diogel

Ceisiwch osgoi cerdded neu yrru trwy ddŵr llifogydd, gan y gall fod yn ddyfnach neu’n gyflymach nag y mae’n edrych.

Anogwch staff i beidio â mynd ar deithiau diangen yn ystod tywydd garw.

Caniatáu trefniadau gweithio hyblyg

Cefnogwch staff a allai gael eu heffeithio gan lifogydd yn y cartref neu sy’n wynebu tarfu ar deithio.

Sicrhau bod gweithleoedd yn cael eu paratoi

Amddiffynnwch offer hanfodol, cadwch becynnau cymorth cyntaf wrth law a storiwch eitemau hanfodol uwchlaw lefelau llifogydd.

Darparu cymorth yn ystod ac ar ôl llifogydd

Cysylltwch â’r gweithwyr yr effeithir arnynt, cynigiwch gymorth emosiynol ac ymarferol a darparwch fynediad at gymorth iechyd galwedigaethol neu gwnsela os oes angen.

Codi ymwybyddiaeth o risgiau llifogydd a rhybuddion cymunedol

Anogwch staff i gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd gan awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru.

Hyfforddi rheolwyr i ymateb yn ddiogel a chefnogi eraill

Sicrhewch fod goruchwylwyr yn deall gweithdrefnau brys ac yn gallu helpu staff ag anghenion gwahanol yn ystod llifogydd.

Annog staff i roi gwybod am bryderon neu anawsterau

Hyrwyddwch ddiwylliant lle mae gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl argyfyngau.

Mae rhagor o gyngor ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gwybodaeth:

Cofiwch: arhoswch yn effro, arhoswch mewn cysylltiad, ac arhoswch yn ddiogel.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1st Rhagfyr 2025