Cyngor tywydd oer ar gyfer gweithleoedd
Sut i aros yn ddiogel ac yn iach mewn cyfnodau o oerfel eithafol, cyngor ymarferol, y manteision, a phethau y gall cyflogwyr eu gwneud i helpu staff.
Gwerth cadw'n ddiogel mewn oerfel eithafol
Mae aros yn ddiogel mewn oerfel eithafol yn amddiffyn iechyd gweithwyr trwy atal hypothermia, ewinrhew, neu afiechydon eraill sy’n gysylltiedig ag oerfel.
Mae’n helpu gweithwyr i gynnal lefelau egni a chanolbwyntio, yn cefnogi annibyniaeth, ac yn lleihau’r risg o gymhlethdodau i bobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd.
Mae cadw’n gynnes hefyd yn gwella llesiant a hwyliau gweithwyr a’u gwneud yn fwy cysurus, gan leihau’r angen am gymorth brys gan ofalwyr neu wasanaethau iechyd.
Manteision allweddol i gyflogwyr
- Diogelu iechyd a llesiant staff – helpu i atal salwch sy’n gysylltiedig â’r oerfel a chadw gweithwyr yn ddiogel yn ystod tywydd oer iawn
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) – sicrhau bod gweithwyr anabl yn derbyn gwybodaeth hygyrch ac addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Lleihau absenoldeb ac aflonyddwch – cefnogi staff i gadw’n iach a lleihau absenoldeb salwch yn ystod cyfnodau oer
- Gwella morâl ac ymgysylltiad staff – dangos i weithwyr bod eu hiechyd a’u cysur yn cael eu gwerthfawrogi, gan greu diwylliant gweithle mwy cadarnhaol
- Bodloni cyfrifoldebau iechyd a diogelwch – cefnogi cydymffurfiaeth â chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gynnal amodau gwaith diogel mewn oerfel eithafol
- Dangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) – dangos arweiniad ar addasu i’r hinsawdd, llesiant staff a chynhwysiant
- Gwella enw da sefydliadol – mae bod yn rhagweithiol ynghylch llesiant staff yn cryfhau ymddiriedaeth gyda gweithwyr, partneriaid a’r gymuned ehangach
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1st Rhagfyr 2025