Cyngor tywydd oer ar gyfer gweithleoedd
Sut i aros yn ddiogel ac yn iach mewn cyfnodau o oerfel eithafol, cyngor ymarferol, y manteision, a phethau y gall cyflogwyr eu gwneud i helpu staff.
Effaith peidio â chadw’n ddiogel mewn oerfel eithafol
Gall peidio â chadw’n ddiogel mewn oerfel eithafol achosi problemau iechyd difrifol. Gall gweithwyr ddatblygu hypothermia, ewinrhew, neu afiechydon eraill sy’n gysylltiedig â’r oerfel, a all fod yn fygythiad i fywyd.
I bobl ag anableddau neu gyflyrau meddygol penodol, mae’r risgiau hyd yn oed yn uwch a gall symptomau waethygu’n gyflym.
Gall oerfel eithafol hefyd ei gwneud hi’n anoddach i wneud gweithgareddau dyddiol, effeithio ar hwyliau a chynyddu’r angen am gymorth meddygol brys neu gymorth gan ofalwyr.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1st Rhagfyr 2025