Cyngor tywydd poeth ar gyfer gweithleoedd
Effaith peidio â chadw’n ddiogel mewn gwres eithafol
Gall peidio â chadw’n ddiogel mewn gwres eithafol achosi problemau iechyd difrifol. Gall gweithwyr ddadhydradu, teimlo’n benysgafn, yn wan neu’n ddryslyd, a bod mewn perygl o flinder gwres neu drawiad gwres, a all fod yn fygythiad i fywyd.
I bobl ag anableddau neu gyflyrau meddygol penodol, mae’r risgiau hyd yn oed yn uwch a gall symptomau waethygu’n gyflym. Dangosodd adroddiad effaith gwres ar iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ‘digwyddiadau gwres’ yn cael effaith anghymesur fwy ar gymunedau agored i niwed.
Gall gwres eithafol hefyd ei gwneud hi’n anoddach i wneud gweithgareddau dyddiol, effeithio ar hwyliau, a chynyddu’r angen am gymorth meddygol brys neu gymorth gan ofalwyr.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18th Rhagfyr 2025