
Diffygiad a blinder yn y gweithle
Deall sut i adnabod a rheoli diffygiad a blinder yn y gweithle. Archwilio camau y gall cyflogwyr eu cymryd i wella lles a chynhyrchiant.
Gwerth mynd i’r afael â diffygiad a blinder
Mae Mental Health UK (Saesneg yn unig) yn disgrifio diffygiad fel cyflwr o flinder corfforol a meddyliol a all ddigwydd pan fyddwch wedi profi straen hirdymor ac yn teimlo dan bwysau ac wedi eich llethu.
Mae diffygiad a blinder yn bryderon iechyd galwedigaethol cynyddol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar les, diogelwch a pherfformiad gweithwyr.
Fel cyflogwr, os nad yw’r pryderon hyn yn cael eu cydnabod a’u datrys, gall diffygiad a blinder arwain at salwch hirdymor, morâl gwael a throsiant gweithwyr uwch. Gall cymryd camau i fynd i’r afael â’r achosion helpu pawb i ffynnu yn y gwaith.
Mae manteision gweithredu yn eich gweithle yn cynnwys:
- Gwell morâl ac ymgysylltiad staff
- Llai o absenoldebau a phresenoliaeth
- Gwell perfformiad a chreadigrwydd tîm
- Gwell gallu i gadw staff a mwy o foddhad ymhlith staff
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Awst 2025
