
Fepio yn y gweithle
Dysgwch sut y gall cyflogwyr chwarae rhan wrth atal fepio yn y gwaith i amddiffyn iechyd gweithwyr, a chynnal diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.
Gwerth annog pobl i beidio â fepio
Er bod fepio yn cael ei ystyried yn aml yn fwy diogel nag ysmygu, nid yw heb ei beryglon. Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw’r effeithiau iechyd hirdymor yn llawn o hyd. Gall fepio gyfrannu at fod yn gaeth i nicotin, yn enwedig ymhlith gweithwyr iau 16-24 oed. Gall caniatáu neu anwybyddu fepio anfon y neges ei fod yn ddiniwed neu’n gymdeithasol dderbyniol.
I gyflogwyr yng Nghymru, nid yw atal fepio yn ymwneud â chydymffurfiaeth iechyd yn unig, mae’n ffordd ragweithiol o lunio normau yn y gweithle, hyrwyddo lles a sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith. Mae hyn yn arbennig o bwysig i weithwyr iau, y mae eu hagweddau a’u hymddygiadau yn dal i ddatblygu. Trwy gymryd camau bach, strategol nawr, gall cyflogwyr helpu i atal cenhedlaeth newydd rhag dod yn ddibynnol ar nicotin, lleihau niwed sy’n gysylltiedig â fepio, a chreu gweithle mwy cynhyrchiol, cefnogol ac sy’n canolbwyntio ar iechyd i bawb.
Gall fepio effeithio ar ansawdd aer dan do ac achosi i staff nad ydynt yn fepio deimlo’n anghyfforddus. Gall greu delwedd amhroffesiynol i gleientiaid neu gwsmeriaid os yw’n weladwy ar y safle.
Gall fepio normaleiddio’r defnydd o nicotin, yn enwedig mewn gweithleoedd gyda phrentisiaid neu staff iau (yn enwedig y rhai rhwng 16 a 24 oed). Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ifanc sy’n fepio yn fwy tebygol o ddechrau ysmygu sigaréts traddodiadol yn ddiweddarach – pryder y dylai cyflogwyr ei gymryd o ddifrif.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Gorffennaf 2025
