Skip to content

Fepio yn y gweithle

Dysgwch sut y gall cyflogwyr chwarae rhan wrth atal fepio yn y gwaith i amddiffyn iechyd gweithwyr, a chynnal diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

O dan gyfraith Cymru, mae’n anghyfreithlon fepio mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig (ers 2017). Rhaid i gyflogwyr orfodi’r rheolau hyn.

Mewn lleoliadau â llawer o staff iau, fel lletygarwch, manwerthu neu brentisiaethau, mae pwysau gan gyfoedion ac ymddygiadau grŵp yn chwarae rhan fawr. Mae polisïau clir ac esiamplau da yn hanfodol yn yr amgylcheddau hyn.

Gall cyflogwyr helpu i atal fepio trwy wneud y canlynol:

Gweithredu polisi fepio clir

Ymestyn polisïau di-fwg i gynnwys e-sigaréts a diffinio’n glir ble, os yn unrhyw le, y caniateir fepio.

Addysgu staff

Rhoi gwybodaeth am risgiau iechyd fepio a manteision rhoi’r gorau iddi.
Chwalu’r mythau bod fepio yn gwbl ddiniwed.

Cefnogi rhaglenni rhoi’r gorau iddi

Hyrwyddo Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth cenedlaethol rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru.

Cynnig rhaglenni lles mewnol sy’n cynnwys cefnogaeth rhoi’r gorau i nicotin.

Hyfforddi rheolwyr a goruchwylwyr

Gwnewch yn siŵr eu bod yn deall y gyfraith ac yn gwybod sut i orfodi cyfyngiadau fepio yn gyson ac yn deg.

Creu amgylchedd cefnogol

Annog diwylliant gweithle iach sy’n annog peidio â defnyddio pob math o nicotin.

Dathlu straeon llwyddiant gweithwyr sy’n rhoi’r gorau i ysmygu neu fepio.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Gorffennaf 2025

Llun agos o dîm gyda'u dwylo wedi'u pentyrru ar ei gilydd dros ddesg yn y gwaith