Skip to content

Gweithio Hyblyg

Darganfyddwch sut y gall gweithio hyblyg helpu'ch busnes a chefnogi gweithwyr.

Neidio'r tabl cynnwys

Manteision gweithio hyblyg

Mae gweithio hyblyg o fudd i gyflogwyr a gweithwyr drwy greu gweithle hapusach a mwy cytbwys. Pan fydd gan bobl reolaeth dros eu hamserlenni gwaith, maen nhw’n teimlo llai o straen ac yn dangos mwy o gymhelliant, gan arwain at well perfformiad a llai o ddyddiau o salwch.

Mae hefyd yn helpu busnesau i ddenu a chadw gweithwyr talentog. Mae llawer o bobl yn chwilio am swyddi sy’n cyd-fynd â’u bywydau personol, ac mae cynnig opsiynau gwaith hyblyg yn caniatáu i gyflogwyr benodi gweithwyr o gronfa dalent ehangach, fwy amrywiol. Gall hyn leihau costau penodi a hyfforddi wrth adeiladu tîm cryfach.

Mae yna fuddion ariannol ac amgylcheddol hefyd. Gall cyflogwyr arbed ar ofod swyddfa a chostau ynni, ac mae llai o gymudo yn golygu llai o lygredd. Nod Llywodraeth Cymru yw i 30% o weithwyr weithio gartref neu’n agos at eu cartrefi, gan gefnogi cymunedau lleol a dyfodol gwyrddach.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Person yn defnyddio gliniadur i gael cyfarfod o bell gyda pherson arall.