
Gweithio Hyblyg
Darganfyddwch sut y gall gweithio hyblyg helpu'ch busnes a chefnogi gweithwyr.
Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud
Gall gweithio hyblyg fod o fudd mawr i gyflogwyr a gweithwyr, ond mae angen cynllunio da i weithio’n dda. Dylai cyflogwyr fod â chynllun clir i sicrhau ei fod o fudd i’r busnes a’r staff.
- Gwirio pa swyddi all fod yn hyblyg – efallai y bydd angen i rai rolau fod yn y gweithle
- Siarad â’r staff – gofyn beth sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gallu gwneud eu gwaith gorau
- Gwneud cynllun syml – llunio reolau clir ar sut mae gweithio’n hyblyg yn cael ei gynnig
- Rhoi’r offer cywir i staff – gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw rhyngrwyd ac offer da
- Gwirio a yw’n gweithio – dylid adolygu gweithio hyblyg yn rheolaidd a gwneud gwelliannau
O ran canllawiau ar hawliau cyflogaeth ac arferion gorau, mae ACAS (dolen Saesneg yn unig,
yn agor mewn ffenestr newydd) yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gyfreithiau gweithio hyblyg a pholisïau gweithle.
Dylai cyflogwyr hefyd fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (yn agor mewn ffenestr newydd), sy’n sicrhau triniaeth deg yn y gweithle.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025
