
Gweithleoedd cynaliadwy
Mae adeiladu gweithle mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy yn helpu'r blaned ac yn gwella iechyd a llesiant gweithwyr.
Pam mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn bwysig i iechyd a llesiant
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn golygu gofalu am ein planed fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau adnoddau naturiol (fel aer glân a dŵr diogel) ac amgylchedd iach.
Mae’n golygu gwneud dewisiadau sy’n amddiffyn natur ac yn gwella iechyd. Fel cyflogwr, mae gennych gyfle i wneud eich gweithle yn wyrddach ac yn iachach.
Trwy ddefnyddio arferion ecogyfeillgar, gall busnesau greu:
- mannau iachach
- lleihau straen
- hybu llesiant gweithwyr
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a gwella adnoddau naturiol yng Nghymru.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025
