
Gweithleoedd cynaliadwy
Mae adeiladu gweithle mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy yn helpu'r blaned ac yn gwella iechyd a llesiant gweithwyr.
Helpu busnesau a gweithwyr i ffynnu
Mae bod yn ecogyfeillgar yn dda i’r amgylchedd – ac mae’n dda i fusnes hefyd.
Mae gweithleoedd gwyrdd yn gallu:
- Gwella llesiant gweithwyr drwy greu mannau iachach
- Arbed arian drwy ddefnyddio llai o ynni a lleihau gwastraff
- Denu cwsmeriaid a gweithwyr eco-ymwybodol
- Hybu morâl ac ymgysylltiad yn y gweithle drwy gynnwys staff mewn ymdrechion cynaliadwyedd
Gwrandewch ar ein podlediad gyda Sue Husband (OBE) o Business in the Community Cymru i ddysgu mwy.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025
