Skip to content

Gweithleoedd cynaliadwy

Mae adeiladu gweithle mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy yn helpu'r blaned ac yn gwella iechyd a llesiant gweithwyr.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i greu gweithle cynaliadwy ac iach. Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw:

Cyflwyno arferion gwyrdd

Gall lleihau’r defnydd o ynni a newid i ffynonellau adnewyddadwy leihau costau wrth helpu’r amgylchedd.

Gall ailgylchu, ailddefnyddio deunyddiau ac osgoi plastigau untro ostwng lefelau gwastraff yn sylweddol. Annog defnyddio wpanau a chynwysyddion bwyd y gellir eu hailddefnyddio yn y gwaith a darparu ffyrdd o ailgylchu yn y gwaith.

Gellir gwneud gweithleoedd yn wyrddach trwy ddefnyddio offer arbed ynni a defnyddio golau ac awyru naturiol. Gallwch hefyd wella ansawdd aer trwy gael planhigion yn eich gweithle.

Hyrwyddo teithio cynaliadwy

Gall annog beicio i’r gwaith neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus helpu i leihau allyriadau carbon. Darganfyddwch fwy am weithleoedd egnïol.

Gall darparu raciau beic, cawodydd, ac opsiynau gwaith hyblyg wneud cymudo’n wyrddach. Darganfyddwch fwy am fanteision gweithio hyblyg.

Cefnogi llesiant yn y gweithle

Gall cefnogaeth iechyd meddwl, cyfarfodydd sefyll neu gerdded a gweithgareddau tîm awyr agored wella iechyd gweithwyr wrth atgyfnerthu meddylfryd cynaliadwy. Darganfyddwch fwy am iechyd meddwl a llesiant.

Darparu opsiynau bwyd iach, lleol mewn ffreuturau yn y gweithle, neu beiriannau gwerthu. Darganfyddwch fwy am fanteision bwyta’n dda.

Codi ymwybyddiaeth a chynnig hyfforddiant

Cynnig hyfforddiant a rhannu adnoddau i helpu i wreiddio cynaliadwyedd yn niwylliant y gweithle. Mae llawlyfr Go Green at Work (Saesneg yn unig) y TUC yn ganllaw ymarferol i gynrychiolwyr undebau llafur sydd am weithredu yn y gweithle.

Gall cyflogwyr hefyd ymgysylltu â phrosiectau amgylcheddol lleol ac annog staff i gymryd rhan mewn mentrau gwyrdd.

Gosod nod ac olrhain llwyddiant

Gallwch osod nodau cynaliadwyedd, olrhain eich cynnydd a dathlu eich cyflawniadau.

Gall gwneud hyn eich helpu i sicrhau gwelliannau parhaus yn eich gweithle.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Person yn eistedd wrth ddesg gyda gliniadur, mwg yn cynnwys diod boeth a’u cinio mewn bocs bwyd y gellir ei ailddefnyddio.