
Gweithleoedd egnïol
Darganfyddwch fanteision bod yn weithle egnïol ar gyfer busnesau a gweithwyr, yn ogystal â chamau i annog a chynyddu gweithgarwch yn y gweithle.
Gwerth bod yn egnïol yn y gwaith
Mae gweithle anweithgar yn ddrwg i iechyd gweithwyr – ac mae’n cynyddu costau i’r busnes fel costau sy’n gysylltiedig â salwch a chynhyrchiant is.
Mae astudiaethau wedi cysylltu bod yn anweithgar â bod yn ordrwm ac yn ordew, diabetes math 2 (yn agor mewn ffenestr newydd), rhai mathau o ganser (yn agor mewn ffenestr newydd), a marwolaeth gynnar.
Gall eistedd am gyfnodau hir arafu metabolaeth, gan effeithio ar allu’r corff i reoleiddio siwgr y gwaed, pwysedd gwaed ac ymddatod braster y corff. Mae llawer o oedolion yn y DU yn treulio tua naw awr y dydd yn eistedd (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd), p’un a ydyn nhw’n gwylio’r teledu, yn defnyddio cyfrifiadur, darllen, cymudo, neu’n gweithio- ac eithrio cwsg.
Mae’r gweithle yn chwarae rhan bwysig o ran iechyd a llesiant gweithwyr. Mae ffactorau fel gofynion swyddi, trefniant swyddfa a diwylliant cwmni i gyd yn effeithio ar sut mae gweithwyr yn teimlo’n gorfforol ac yn feddyliol.
Mae gweithle cadarnhaol sy’n annog symud a gweithgarwch rheolaidd yn helpu gweithwyr i gadw’n iach, yn hapus ac yn llawn cymhelliant.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025
