Skip to content

Gweithleoedd egnïol

Darganfyddwch fanteision bod yn weithle egnïol ar gyfer busnesau a gweithwyr, yn ogystal â chamau i annog a chynyddu gweithgarwch yn y gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Manteision bod yn egnïol

Pan fydd gweithwyr yn cael cyfleoedd i symud drwy gydol y dydd – p’un ai drwy gyfarfodydd cerdded, seibiannau ar gyfer ymarferion ymestyn neu weithfannau egnïol – maen nhw’n teimlo’n well ac yn gweithio’n fwy effeithlon.

Mae helpu gweithwyr i gadw’n heini yn y gwaith yn cynnig llawer o fanteision i gyflogwyr:

Perfformiad gwaith gwell

Mae ymarfer corff yn helpu pobl i ganolbwyntio, aros yn effro a meddwl yn glir.

Pan fydd gweithwyr yn teimlo’n dda, maen nhw’n gwneud mwy mewn llai o amser.

Llai o ddiwrnodau salwch

Mae gweithwyr egnïol yn iachach ac yn cymryd llai o ddiwrnodau i ffwrdd.

Gall symud mwy rwystro problemau fel poen cefn, clefyd y galon a gordewdra.

Gweithwyr hapusach

Mae gweithle sy’n annog symud yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae gweithwyr hapus yn mwynhau eu gwaith yn fwy ac yn llai tebygol o adael.

Gwell gwaith tîm

Mae gweithgareddau fel heriau camau neu gyfarfodydd cerdded yn dod â phobl at ei gilydd.

Pan fydd gweithwyr yn cyd-dynnu’n dda, maen nhw’n gweithio’n well fel tîm.

Enw da

Mae cwmnïau sy’n gofalu am iechyd yn denu mwy o weithwyr.

Mae pobl eisiau gweithio lle maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi ac yn derbyn gofal.

Mae manteision bod yn egnïol yn cael eu crynhoi yng Nghanllawiau Gweithgarwch Corfforol y Prif Swyddogion Meddygol (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Cymudwr mewn siaced a helmed lachar yn beicio ar y ffordd.