Skip to content

Gweithleoedd egnïol

Darganfyddwch fanteision bod yn weithle egnïol ar gyfer busnesau a gweithwyr, yn ogystal â chamau i annog a chynyddu gweithgarwch yn y gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dydy gweithgarwch corfforol ddim bob amser yn golygu ‘ymarfer corff’ – mae cyflwyno unrhyw symudiad i’r diwrnod yn gam tuag at weithlu iachach ac egnïol.

Fel cyflogwr, mae sawl ffordd y gallwch chi roi hwb i weithgarwch yn y gweithle. Gall newidiadau syml, fel annog pobl i ddefnyddio’r grisiau neu ddarparu desgiau sefyll, wneud gwahaniaeth mawr.

Mae symud yn rheolaidd nid yn unig yn hybu egni a ffocws ond hefyd yn lleihau’r risg o broblemau iechyd fel poen cefn a straen.

Os gall rheolwyr ymuno â gweithgareddau a bod yn fodelau rôl gweladwy, mae gweithwyr yn fwy tebygol o gymryd rhan hefyd.

Hyrwyddo opsiynau teithio gwyrdd
  • Darparu adnoddau a hyrwyddwch opsiynau teithio gwyrdd, gan gynnwys cymudo llesol. Hyd yn oed os yw staff yn teithio ar y trên neu’r bws, maen nhw’n debygol o gerdded mwy o’r orsaf nag y bydden nhw o’u car.
  • Trefnu cynllun aberthu cyflog i brynu beic a fydd hefyd yn fudd cyflogaeth cadarnhaol i’ch staff
Annog arferion iach yn y gweithle
  • Dechrau grŵp cerdded yn y gweithle. Mae mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol (Saesneg yn unig) – anogwch weithwyr i gymryd rhan a hyrwyddwch y digwyddiad yn eich gweithle, ond does dim angen aros tan fis Mai, mae unrhyw amser yn amser da i ddechrau.
  • Hyrwyddo arferion bach, egnïol fel gweithwyr yn defnyddio’r grisiau neu barcio ymhellach i ffwrdd o’u lleoliad, os oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu ceir. Gallech roi cynnig ar her dringo grisiau (Saesneg yn unig) Sefydliad Prydeinig y Galon yn eich gweithle.
  • Trefnu sesiynau blasu amser cinio ar gyfer gweithgareddau fel ioga neu Pilates
  • Hysbysebu grwpiau chwaraeon lleol, yn enwedig rhai nid-er-elw ac elusennau. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o helpu i ddiogelu a gwella llesiant meddyliol eich gweithiwr.
Ymgysylltu â’ch timau
  • Siarad â gweithwyr i ddeall eu diddordebau a’u cynnwys wrth gynllunio a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau
Defnyddio cymorth gan wasanaethau eraill

Yng Nghymru, mae amrywiaeth o sefydliadau a all eich cynorthwyo chi a’ch gweithwyr i greu gweithle mwy egnïol:

  • Mae Sustrans yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i rymuso eu staff i adael y car gartref a theithio i’r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic, cerdded neu rannu car.
  • Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor, syniadau, awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gwaith.
  • Mae Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig) yn darparu adnoddau a gwybodaeth ar-lein am ddim am hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gwaith
  • Mae gwefan Ramblers Cymru (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth am deithiau cerdded lleol neu grwpiau cerdded yn eich ardal
Derbyn gwybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025

Cymudwr mewn siaced a helmed lachar yn beicio ar y ffordd.