
Gweithwyr hŷn yn y gweithle
Gan fod pobl bellach yn gweithio'n hwyrach yn eu bywydau, mae creu amgylcheddau lle gall gweithwyr dros 50 oed ffynnu o fudd i gyflogwyr ac i weithwyr
Manteision gweithwyr hŷn
Gall gweithwyr hŷn (50+ oed) ddod â phrofiad, dibynadwyedd a gwybodaeth am y diwydiant. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â phrinder sgiliau a chefnogi twf busnes.
Mae pobl yn byw’n hirach ac yn gweithio’n hwyrach, ac mae mwy o weithwyr hŷn yng ngweithlu Cymru. Yn 2025, mae un o bob tri gweithiwr yng Nghymru yn 50 neu’n hŷn. Er hynny, dim ond 5% o sefydliadau sydd â chynllun i gefnogi gweithlu sy’n heneiddio a helpu gweithwyr i gadw’n iach yn y gwaith.
Manteision allweddol recriwtio a chadw gweithwyr hŷn:
- Cadw staff a mwy o deyrngarwch
- Cyfleoedd mentora gwerthfawr
- Costau trosiant staff is
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025
