Skip to content

Gweithwyr hŷn yn y gweithle

Gan fod pobl bellach yn gweithio'n hwyrach yn eu bywydau, mae creu amgylcheddau lle gall gweithwyr dros 50 oed ffynnu o fudd i gyflogwyr ac i weithwyr

Neidio'r tabl cynnwys

Cyfleoedd i gefnogi gweithwyr hŷn

Mae creu gweithle lle mae gweithwyr hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi o fudd i weithwyr a busnesau.

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi gweithwyr hŷn yn y gweithle.

Dyma rai pethau i feddwl amdanyn nhw:

  • Gwella llesiant yn y gweithle drwy ddarparu gwell cefnogaeth i weithwyr dros 50 oed
  • Nodi bylchau mewn cyfleoedd hyfforddi a mynd i’r afael â hwy i sicrhau mynediad teg i’r holl staff
  • Annog gweithwyr i aros mewn gwaith yn hirach drwy hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Cynnig opsiynau gweithio mwy hyblyg i gynyddu boddhad a chadw gweithwyr

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025

Gweithiwr warws mewn fest lachar yn sefyll wrth ddesg i labelu blwch.