Skip to content

Gweithwyr hŷn yn y gweithle

Gan fod pobl bellach yn gweithio'n hwyrach yn eu bywydau, mae creu amgylcheddau lle gall gweithwyr dros 50 oed ffynnu o fudd i gyflogwyr ac i weithwyr

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae yna lawer o ffyrdd y gall cyflogwyr fod yn rhagweithiol wrth gefnogi gweithwyr hŷn. Ystyriwch ddefnyddio’r enghreifftiau a’r adnoddau ymarferol hyn yn eich gweithle:

Sicrhau recriwtio teg a chynhwysol
Cynnig opsiynau gweithio hyblyg

Darparu cyfleoedd gwaith hyblyg o’r diwrnod cyntaf. Gallai hyn gynnwys rhannu swydd, rolau rhan-amser ac ymddeoliad graddol.

Mae pecyn cymorth gweithio hyblyg (Saesneg yn unig) y Ganolfan er Heneiddio’n Well yn rhoi arweiniad pellach ar hyn.

Hyrwyddo datblygiad gyrfa 
Gwella cefnogaeth iechyd yn y gweithle
  • Hwyluso sgyrsiau agored am faterion iechyd sy’n gysylltiedig ag oedran
  • Gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi gweithwyr hŷn fel y dangosir yng nghanllaw Acas ar gyfer addasiadau i weithleoedd (Saesneg yn unig)
  • Hyfforddi rheolwyr i gefnogi gweithwyr gydag atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol gan ddefnyddio menter Uwchsgilio@Waith Busnes Cymru
Annog sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth
  • Annog a chreu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau agored am faterion iechyd sy’n gysylltiedig ag oedran
  • Hyrwyddo ymgysylltiad mewn digwyddiadau ac ymgyrchoedd a restrir yn ein hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau, fel Diwrnod Menopos y Byd ac Wythnos Gweithwyr Hŷn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025

Gweithiwr warws mewn fest lachar yn sefyll wrth ddesg i labelu blwch.