
Iechyd a diogelwch yn y gweithle
Dysgwch am arferion iechyd a diogelwch a darganfod sut i'w hintegreiddio i'ch gweithle i ddiogelu gweithwyr a gwella perfformiad busnes.
Pwysigrwydd iechyd a diogelwch
Mae gan bob cyflogwr yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol (dolen Saesneg yn unig) i sicrhau amgylchedd diogel ac iach.
Mae diwylliant iechyd a diogelwch cryf o fudd i gyflogwyr a gweithwyr drwy:
- Diogelu gweithwyr rhag damweiniau a salwch yn y gweithle
- Lleihau absenoldeb a throsiant staff
- Gwella morâl gweithwyr
- Gwella enw da’r cwmni
- Cynyddu cynhyrchiant ac elw
- Gostwng premiymau yswiriant a chostau cyfreithiol
- Cryfhau cyfrifoldeb corfforaethol
Os nad ydych yn ymgorffori arferion iechyd a diogelwch, gall arwain at gamau rheoleiddio neu geisiadau am iawndal.
Gweler y ffeithiau allweddol diweddaraf am iechyd a diogelwch yn y gwaith i Gymru yn y ffeithlun hwn gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025
