
Iechyd a diogelwch yn y gweithle
Dysgwch am arferion iechyd a diogelwch a darganfod sut i'w hintegreiddio i'ch gweithle i ddiogelu gweithwyr a gwella perfformiad busnes.
Cyfleoedd ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch yn gadarnhaol
Mae yna ffyrdd y gallwch greu diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol yn eich sefydliad. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Arweinyddiaeth Gref – Dylai uwch reolwyr fynd ati i hyrwyddo ac integreiddio diogelwch i ddiwylliant y gweithle
- Ymgynghori â Gweithwyr – Ymgysylltu â gweithwyr wrth wneud penderfyniadau diogelwch a gweithredu ar eu hadborth. Gwneud yn siŵr eich bod hefyd yn rhoi gwybod iddyn nhw am newidiadau.
- Cyfathrebu Effeithiol – Sicrhau cyfathrebu dwyffordd rhwng staff ac arweinyddiaeth. Bydd gwneud hyn yn helpu i gynnal tryloywder ac atebolrwydd
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26th Mawrth 2025
