Skip to content

Iechyd a diogelwch yn y gweithle

Dysgwch am arferion iechyd a diogelwch a darganfod sut i'w hintegreiddio i'ch gweithle i ddiogelu gweithwyr a gwella perfformiad busnes.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dyma rai ffyrdd y gallwch ymarfer iechyd a diogelwch da yn eich gweithle:

Rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
Darparu amgylchedd gwaith diogel
  • Sicrhau bod gweithleoedd yn bodloni safonau diogelwch gyda chyfleusterau priodol
  • Dylunio tasgau a llwyth gwaith gydag iechyd a diogelwch mewn golwg. Ystyried ffactorau ergonomig i wneud y gweithle’n gyffyrddus ac yn hawdd ei ddefnyddio
  • Cynnal asesiadau risg i nodi a lliniaru peryglon, gan gynnwys straen yn y gweithle
  • Annog gweithwyr i roi gwybod am beryglon a chymryd rhan mewn ymchwiliadau i ddigwyddiadau.
Sicrhau cydymffurfiaeth gweithwyr
  • Darparu cyfarwyddiadau diogelwch clir a hyfforddiant digonol
  • Rhoi arweiniad i reolwyr ar bolisïau, asesiadau risg a llesiant gweithwyr
  • Nodi anghenion hyfforddi, gan gynnwys pynciau arbenigol fel cymorth gyda’r menopos

Mae cadw iechyd a diogelwch yn syml ac yn hygyrch yn allweddol. Archwiliwch adnoddau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer hanfodion diogelwch yn y gweithle.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26th Mawrth 2025

Llun agos o berson yn ysgrifennu ar ddarn o bapur.