
Iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith
Dysgwch sut i wella iechyd a llesiant meddyliol yn eich gweithle gyda strategaethau i wella diwylliant, cefnogi gweithwyr a hybu cynhyrchiant.
Beth yw Iechyd a llesiant meddyliol?
Mae’r term “iechyd meddwl” yn cwmpasu ystod eang o brofiadau, o lesiant meddyliol cadarnhaol i reoli cyflyrau iechyd meddwl hirdymor.
Mae llesiant meddyliol yn golygu “teimlo’n dda a gweithredu’n dda”. Gall gwella ein llesiant meddyliol wella ein hiechyd meddwl a chorfforol. Gall hefyd leihau’r risg o iselder a gorbryder.
Mae pawb yn cael cyfnodau o lesiant meddyliol gwael, yn union fel gydag iechyd corfforol. Mae hyrwyddo llesiant meddyliol cadarnhaol yn y gwaith o fudd i gyflogwyr a gweithwyr.
Mae’r buddion yn y gweithle yn cynnwys:
- Gweithwyr hapusach
- Llai o absenoldebau
- Perfformiad gwaith gwell
- Timau cryfach
- Llai o drosiant staff
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19th Mawrth 2025
