Skip to content

Iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith

Dysgwch sut i wella iechyd a llesiant meddyliol yn eich gweithle gyda strategaethau i wella diwylliant, cefnogi gweithwyr a hybu cynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Cost iechyd meddwl gwael yn y gweithle

Gall iechyd meddwl gwael gostio llawer o arian i gyflogwyr yng Nghymru a’r DU. Gall y costau hyn ddod o ganlyniad i:

  • Golli cynhyrchiant
  • Absenoldeb
  • Presenoliaeth
  • Costau cymorth uwch (e.e. rhaglenni iechyd galwedigaethol neu gymorth i weithwyr)

Un o’r heriau mwyaf yw presenoliaeth. Dyma pan fydd gweithwyr yn y gwaith, ond ddim yn gallu perfformio ar eu gorau oherwydd trafferthion iechyd meddwl. Mae’r gost gudd hon yn aml yn fwy nag effaith absenoldeb salwch ei hun.

Iechyd meddwl hefyd yw prif achos absenoldebau tymor byr a hirdymor. Gall hyn roi pwysau ar eich timau a chynyddu eich costau recriwtio a hyfforddiant hefyd oherwydd mwy o drosiant staff.

Buddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl yn y gweithle yw’r peth iawn i’w wneud – mae hefyd yn benderfyniad ariannol craff. Gall cyflogwyr sy’n blaenoriaethu llesiant meddyliol weld enillion cryf ar fuddsoddiad trwy well cynhyrchiant, llai o absenoldebau a llai o drosiant staff.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20th Mawrth 2025

Dwy fenyw, sy’n gydweithwyr, yn eistedd wrth fwrdd ac yn sgwrsio.