Skip to content

Iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith

Dysgwch sut i wella iechyd a llesiant meddyliol yn eich gweithle gyda strategaethau i wella diwylliant, cefnogi gweithwyr a hybu cynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, gallwch chwarae rhan hanfodol wrth leihau stigma a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol:

Gwirio iechyd a llesiant meddyliol

Dylai fod systemau ar waith i’ch helpu i flaenoriaethu iechyd meddwl gweithwyr.

Bydd hyn yn eich helpu i ddeall unrhyw faterion y mae angen i chi fynd i’r afael â nhw. Gall hyn gynnwys:

  • Gofyn i weithwyr sut maen nhw’n teimlo drwy ddefnyddio arolygon, grwpiau ffocws a sgyrsiau un i un gyda rheolwyr
  • Cadw golwg ar y rhesymau pam mae gweithwyr yn absennol o’r gwaith. Gall hyn eich helpu i ddeall a yw straen yn y gweithle yn ffactor
  • Defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu i roi cynllun iechyd meddwl yn y gweithle ar waith a gwirio eich cynnydd
Datblygu cynllun iechyd meddwl yn y gweithle

Gall gweithio gyda gweithwyr i roi cynllun iechyd meddwl ar waith fod yn ffordd dda o reoli a gwella iechyd meddwl yn y gwaith.

Gall eich cynllun gynnwys:

  • Penodi uwch arweinydd i hyrwyddo mentrau yn eich sefydliad
  • Adolygu eich polisïau yn y gweithle ac ychwanegu camau i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant da. Gallai hyn gynnwys polisïau ar weithio’n hyblyg, rheoli absenoldeb a bwlio ac aflonydd
  • Creu grŵp gorchwyl gyda chynrychiolwyr o bob rhan o’ch sefydliad i drafod gwella iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle
  • Defnyddio Safonau Rheoli Straen(Saesneg yn unig) yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ddatblygu cynllun i leihau straen yn y gweithle
Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chefnogol yn y gweithle

Gall gwneud gwaith yn lle cadarnhaol a chefnogol helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gyfforddus.

Gall hyn hefyd helpu gweithwyr i siarad am iechyd meddwl heb ofn na chywilydd.

Gall hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chefnogol yn y gweithle gynnwys:

  • Hyfforddi rheolwyr i eiriol dros, a chefnogi llesiant meddyliol
  • Penodi hyrwyddwyr iechyd a llesiant meddyliol a rhoi amser iddyn nhw gyflawni’r rôl hon
  • Sicrhau llwyth gwaith teg a chynnal sgyrsiau rheolaidd gyda gweithwyr i atal straen a gorweithio
  • Annog uwch arweinwyr a rheolwyr i fod yn agored am eu hiechyd meddwl eu hunain
  • Rhannu newyddion am gymorth iechyd meddwl drwy eich sianeli cyfathrebu â staff
  • Cael sgyrsiau agored am iechyd meddwl drwy gyfarfodydd un-i-un neu gyfarfodydd tîm
Rhannu adnoddau iechyd meddwl a llesiant gyda gweithwyr

Gall defnyddio eich sianeli cyfathrebu â staff fod yn ffordd dda o rannu gwybodaeth a hyrwyddo adnoddau a all wella iechyd meddwl a llesiant.

  • Mae Hapus: Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o weithgareddau hybu llesiant meddyliol ledled Cymru
  • Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl (Saesneg yn unig) yn cynnig offer a chyngor i helpu pobl a sefydliadau i flaenoriaethu iechyd meddwl
  • Rhaglenni Cymorth i Weithwyr – yn darparu gwasanaethau cwnsela a chymorth cyfrinachol
  • Mae llawer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, y gallwch eu hyrwyddo yn eich gweithle. Ewch i’n hadran Ymgyrchoedd a Digwyddiadau i ddarganfod mwy.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20th Mawrth 2025

Dwy fenyw, sy’n gydweithwyr, yn eistedd wrth fwrdd ac yn sgwrsio.