Skip to content

Iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle

Darganfyddwch strategaethau ymarferol i atal anafiadau cyhyrysgerbydol yn y gweithle, cefnogi llesiant gweithwyr a hybu cynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Achosion cyflyrau cyhyrysgerbydol

Yng Nghymru, mae iechyd cyhyrysgerbydol gwael yn bryder sylweddol yn y gweithle, gydag achosion allweddol yn cynnwys:

Ergonomeg gwael

Gweithfannau wedi’u trefnu’n anghywir, eistedd am gyfnodau hir a thasgau ailadroddus sy’n arwain at straen ac anaf.

Codi a chario

Codi, cario, neu symud llwythi trwm heb ddefnyddio technegau priodol neu gymorth.

Symudiadau ailadroddus

Tasgau sy’n gofyn am symudiadau parhaus sy’n achosi anafiadau straen.

Mae hyn yn cynnwys tasgau fel teipio neu waith ar linellau cydosod.

Sefyll neu eistedd yn hir am gyfnodau hir

Gall swyddi sydd angen cyfnodau hir o sefyll (fel manwerthu neu ofal iechyd) neu eistedd (fel gwaith swyddfa) arwain at broblemau gyda chymalau a chyhyrau.

Llwyth gwaith uchel a straen

Gall mwy o bwysau gyfrannu at densiwn cyhyrol a gwaethygu cyflyrau cyhyrysgerbydol sydd eisoes yn bodoli.

Gweithlu sy’n heneiddio

Gall gweithwyr hŷn fod yn fwy tueddol o ddioddef o gyflyrau cyhyrysgerbydol.

Gall tasgau sy’n heriol yn gorfforol waethygu’r cyflyrau hyn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Llun agos o berson yn cael ffisiotherapi ar eu braich