Skip to content

Iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle

Darganfyddwch strategaethau ymarferol i atal anafiadau cyhyrysgerbydol yn y gweithle, cefnogi llesiant gweithwyr a hybu cynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio’r strategaethau hyn i helpu i atal a rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol yn eich gweithle.

Lleihau risgiau cyflyrau cyhyrysgerbydol
  • Cynnwys atal cyhyrysgerbydol yn eich cynlluniau iechyd a diogelwch. Darllen ein canllawiau ar iechyd a diogelwch i gael rhagor o wybodaeth
  • Cynnal asesiadau risg wedi’u teilwra ar gyfer pob maes gwaith. Ymweld â gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig) i gael arweiniad penodol i’r diwydiant
  • Darparu hyfforddiant am iechyd cyhyrysgerbydol, fel codi a chario. Dylid hefyd gynnal asesiadau cyfarpar sgrin arddangos (DSE) lle bo angen
  • Penodi hyrwyddwyr llesiant gweithwyr i hyrwyddo iechyd cyhyrysgerbydol. Mae yna lawer o adnoddau (Saesneg yn unig) a phecynnau cymorth (Saesneg yn unig) ar-lein am ddim ar gael i’w cefnogi.
Annog ymddygiad iach yn y gwaith
  • Defnyddio arolygon llesiant i nodi risgiau a gweithio gyda gweithwyr i fynd i’r afael â nhw
  • Gall straen achosi tensiwn cyhyrol ac ymddygiadau nad ydyn nhw’n iach fel peidio â chymryd egwyl. Ymweld â’n tudalen straen i ddod o hyd i strategaethau i leihau straen yn y gweithle
  • Gall cynnal pwysau iach leihau’r risg o gyflyrau cyhyrysgerbydol. Ymweld â’n tudalen Bwyta’n Iach i ddod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo bwyta’n iach yn eich gweithle.
Cefnogi gweithwyr â chyflyrau cyhyrysgerbydol
  • Hyfforddi rheolwyr i gael sgyrsiau agored am gyflyrau cyhyrysgerbydol. Bydd hyn yn annog gweithwyr i roi gwybod am gyflyrau a chanfod atebion yn fuan
  • Gweithio gyda gweithwyr i adolygu eu hanghenion a gwneud addasiadau rhesymol. Gallai hyn gynnwys newidiadau i weithfannau, rolau neu amserlenni
  • Cefnogi gweithwyr i reoli eu cyflyrau drwy ganiatáu amser ar gyfer apwyntiadau iechyd ac annog ymddygiad iach
  • Cyfeirio gweithwyr at gynghorwyr iechyd galwedigaethol i gael cyngor wedi’i deilwra ar addasiadau yn y gweithle. Darganfod sut y gall gwasanaethau cymorth yn y gwaith gefnogi gweithwyr
  • Darparu offer arbenigol, fel desgiau sefyll neu offer ergonomeg, i gefnogi gweithwyr. Archwilio opsiynau ariannu fel y grant Mynediad at Waith.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Llun agos o berson yn cael ffisiotherapi ar eu braich