Skip to content

Llesiant ariannol yn y gweithle

Darganfyddwch sut i gefnogi llesiant ariannol gweithwyr a dysgwch am yr offer a all eu cynorthwyo i reoli eu cyllid.

Neidio'r tabl cynnwys

Pam mae llesiant ariannol gweithwyr yn bwysig

Fel cyflogwr, drwy ddarparu cymorth llesiant ariannol, byddwch yn cynorthwyo eich gweithwyr, eich busnes a’r economi ehangach.

Mae profi llesiant ariannol yn golygu ein bod yn teimlo llai o straen wrth feddwl am arian. Gall hyn gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n llesiant cyffredinol. Gall hefyd gael effaith gadarnhaol ar y bobl o’n cwmpas, ein gweithleoedd a’n cymunedau.

Mae’r buddion allweddol i fusnes yn cynnwys:

  • Gwell cynhyrchiant
  • Llai o drosiant staff
  • Llai o absenoldebau
  • Gwell perfformiad

Gwrandewch ar ein podlediad ar lesiant ariannol yn y gweithle gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) i gael gwybod mwy am lesiant ariannol, gan gynnwys ble i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth.

Gallwch hefyd ddarllen mwy yn yr Argyfwng Costau Byw yng Nghymru: Adroddiad Drwy Lens Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Arian papur a darnau arian ar fwrdd.