Skip to content

Llesiant ariannol yn y gweithle

Darganfyddwch sut i gefnogi llesiant ariannol gweithwyr a dysgwch am yr offer a all eu cynorthwyo i reoli eu cyllid.

Neidio'r tabl cynnwys

Adnabod arwyddion o straen ariannol mewn gweithwyr

Efallai y bydd rhai gweithwyr sy’n cael trafferth gyda’u cyllid personol yn gallu cyflawni eu rôl yn dda ond yn delio â’u trafferthion ariannol yn breifat.

Fel cyflogwr, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau cyffredin straen ariannol, er mwyn i chi allu gweithredu.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • Presenoldeb gwael
  • Anniddigrwydd
  • Anhawster canolbwyntio
  • Trafferth cysgu
  • Cynhyrchiant is
  • Iechyd meddwl gwael

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 2nd Ebrill 2025

Arian papur a darnau arian ar fwrdd.