
Niwroamrywiaeth yn y gweithle
Dysgwch am niwroamrywiaeth a sut y gallwch chi helpu'ch gweithwyr niwrowahanol i ffynnu.
Deall niwroamrywiaeth
Mae niwroamrywiaeth yn disgrifio’r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl, yn dysgu ac yn rhyngweithio. Mae tua 15% o bobl yn y DU (Saesneg yn unig) yn niwrowahanol, sy’n golygu bod eu hymennydd yn gweithio’n wahanol i’r hyn a ystyrir yn ‘nodweddiadol’.
Mae cyflyrau niwrowahanol yn cynnwys:
● Awtistiaeth
● ADHD (anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd)
● Dyscalcwlia
● Dyslecsia
● Dyspracsia
● Syndrom Tourette
● Epilepsi
● Anhwylder datblygu iaith
● Anabledd deallusol
● Anhwylder spectrwm alcohol y ffetws
Mae’r cyflyrau hyn yn bodoli ar sbectrwm, gyda rhai pobl angen ychydig o gefnogaeth ac eraill yn wynebu mwy o heriau.
Os yw gweithiwr niwrowahanol yn ystyried bod ei gyflwr yn anabledd, caiff ei ddiogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rhaid i gyflogwyr sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais a darparu addasiadau rhesymol.
Gwyliwch fideo MIND ar niwroamrywiaeth yn y gweithle (Saesneg yn unig).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17th Mawrth 2025
