
Sgrinio a brechiadau
Dysgwch am werth sgrinio a brechiadau a sut y gall cyflogwyr hyrwyddo a chefnogi mynediad i'r gwasanaethau hyn er budd iechyd.
Gwerth sgrinio a brechiadau
Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod hyrwyddo sgrinio a brechiadau yn y gweithle yn rhan allweddol o gefnogi iechyd a lles gweithwyr.
Gall codi ymwybyddiaeth arwain at ganfod cyflyrau iechyd yn gynnar a helpu i leihau lledaeniad clefydau heintus, gan gefnogi gweithlu iachach a mwy gwydn.
Mae buddion allweddol i gyflogwyr yn cynnwys:
- Gwella lles a pherfformiad gweithwyr
- Llai o risgiau iechyd a/neu gymhlethdodau yn codi ymhlith gweithwyr o ganlyniad i ganfod yn gynnar
- Rheoli materion iechyd presennol yn well
- Cyngor ar ffordd o fyw i gefnogi iechyd hirdymor
- Llai o absenoldeb salwch
- Lefelau uwch o forâl staff
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Gorffennaf 2025
