Skip to content

Sgrinio a brechiadau

Dysgwch am werth sgrinio a brechiadau a sut y gall cyflogwyr hyrwyddo a chefnogi mynediad i'r gwasanaethau hyn er budd iechyd.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae gan gyflogwyr rôl bwysig wrth greu amodau sy’n ei gwneud hi’n haws i weithwyr gael mynediad at wasanaethau sgrinio a brechu.

Mae’r camau gweithredu sy’n cefnogi tegwch a chyfranogi yn cynnwys:

Darparu amser a hyblygrwydd ar gyfer apwyntiadau iechyd

Caniatáu amser i ffwrdd heb bwysau fel y gall gweithwyr fynychu apwyntiadau sgrinio neu frechu.

Ewch i wefan UNISON i gael gwybodaeth am absenoldeb sgrinio meddygol (Saesneg yn unig).

Rhannu gwybodaeth iechyd clir, dibynadwy

Defnyddio adnoddau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG i godi ymwybyddiaeth drwy sesiynau briffio tîm, posteri, cylchlythyrau neu sianeli digidol.

Sicrhau bod deunyddiau’n hygyrch ac ar gael mewn sawl fformat (e.e. Hawdd eu Darllen, BSL, amlieithog).

Arwain trwy esiampl

Annog arweinwyr a rheolwyr i fodelu ymddygiadau iach trwy fynychu sgrinio neu glinigau ffliw a siarad yn agored amdano.

Gall normaleiddio sgyrsiau am iechyd hefyd helpu i leihau stigma.

Cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi

Mae Iechyd Cyhoeddus Ccymru’n cynnig sesiynau ar-lein am ddim i bobl sydd â rôl weithredol yn hyrwyddo iechyd yn y gweithle ac sydd eisiau codi ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio’r GIG.

Teilwra cymorth i’ch gweithlu

Deall rhwystrau diwylliannol neu ymarferol sy’n benodol i’ch gweithle. Er enghraifft:

  • Partneru ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i drefnu brechiadau ffliw ar y safle
  • Cynnig deunyddiau wedi’u cyfieithu neu ddiwylliannol briodol ar gyfer timau amrywiol
  • Gallwch ofyn am adnoddau copi caled ar sgrinio trwy e-bostio [email protected]
  • Lawrlwytho a rhannu adnoddau digidol
  • Cynllunio ymlaen llaw a chefnogi ymgyrch iechyd yn eich gweithle
Monitro ac addasu

Casglu adborth dienw i ddeall rhwystrau a gwella gweithgarwch yn y dyfodol.

Defnyddio arolygon neu flychau awgrymiadau i addasu strategaethau cyfathrebu a chefnogaeth.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Gorffennaf 2025

Dau gydweithiwr yn eistedd wrth fwrdd i gael cyfarfod, mae un yn gwneud gwaith papur ar glipfwrdd.