Skip to content

Y defnydd o alcohol yn y gweithle

Dysgwch sut i reoli’r defnydd o alcohol yn eich gweithle a helpu'ch gweithwyr trwy roi'r sgiliau iddynt fynd i'r afael â materion gyda gofal a hyder.

Neidio'r tabl cynnwys

Gwerth gweithle cefnogol

Mae rheoli’r defnydd o alcohol yn y gweithle yn hanfodol ar gyfer cynnal amgylchedd iach, diogel a chynhyrchiol.

Gall defnyddio alcohol arwain at;

  • absenoldeb
  • llai o ganolbwyntio
  • damweiniau yn y gweithle
  • gwneud penderfyniadau gwael
  • perthnasoedd dan straen yn y gwaith

Mae ymchwil gan yr IPPR (Saesneg yn unig) wedi canfod:

  • Mae yfed mwy ac yfed risg uchel yn cael effaith glir ar gynhyrchiant yn y gweithle
  • Mae gweithwyr sy’n yfed mwy na’r canllawiau wythnosol a argymhellir yn gyson 1.4 gwaith yn fwy tebygol o brofi presenoliaeth (bod yn y gwaith ond heb fod yn gwbl gynhyrchiol oherwydd salwch, straen, neu lesiant gwael)
  • Mae gweithwyr sy’n cymryd rhan mewn yfed risg uchel bob dydd dros dair gwaith yn fwy tebygol o brofi presenoliaeth
  • Mae bron i un o bob tri o weithwyr wedi peidio dod i’r gwaith am eu bod yn sâl, ac mae un o bob pump wedi gweithio gyda chur pen, ar ôl yfed mewn digwyddiadau gwaith neu gyda chydweithwyr

Am wybodaeth am ddeall yr iaith sy’n ymwneud â defnyddio alcohol, ewch i wefan Alcohol Change (Saesneg yn unig).

Mae manteision mynd i’r afael â defnyddio alcohol yn rhagweithiol yn y gwaith

Diwylliant gweithle cadarnhaol

Gall cyflogwyr hyrwyddo diwylliant o gefnogaeth yn hytrach na stigma.

Gall darparu addysg, polisïau clir a mynediad at gymorth cyfrinachol annog gweithwyr i gael cefnogaeth heb ofni cael eu barnu. Mae hyn yn helpu i leihau absenoldeb, gwella morâl y tîm a gwella llesiant cyffredinol.

Manteision ariannol

Mae llai o absenoldeb salwch is, llai o ddigwyddiadau diogelwch a chynhyrchiant gwell i gyd yn cyfrannu at weithlu mwy effeithlon.

Mae cefnogi gweithwyr trwy heriau sy’n gysylltiedig ag alcohol hefyd yn helpu i feithrin teyrngarwch a lleihau trosiant staff, gan arbed costau recriwtio a hyfforddi.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18th Tachwedd 2025

Llun agos o ddau berson yn eistedd ac yn sgwrsio, mae un yn dal llaw’r llall.