Rhaglen Mentora Cymheiriaid
Yn Cymru Iach ar Waith, rydyn ni’n gwybod bod gweithleoedd iach yn creu timau hapusach a mwy cynhyrchiol.
Rydym yn lansio Cam 1 ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid newydd, a fydd yn dod â chyflogwyr ledled Cymru ynghyd i rannu profiadau real, cyngor ymarferol, a dulliau sydd wedi ennill eu plwy’ o wella lles yn y gweithle.
Mae’r cam cyntaf hwn yn ymwneud â chasglu datganiadau o ddiddordeb gan gyflogwyr sydd am helpu i lunio’r rhaglen a dylanwadu ar sut y gall mentora cymheiriaid gefnogi gweithleoedd yng Nghymru orau.
Gwybodaeth am y Rhaglen
Mae’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid yn gynnig hybrid, sy’n paru cyflogwyr yn seiliedig ar ffactorau fel diwydiant, lleoliad, neu nodau llesiant penodol.
Trwy arweiniad gan Cymru Iach ar Waith, bydd gan bob partneriaeth fentora:
- Ddisgwyliadau clir
- Canllawiau cam wrth gam
- Mynediad at hyfforddiant, offer, adnoddau a chefnogaeth gan gynghorydd Iechyd a Llesiant i helpu’r berthynas fentora i weithio’n dda
Gall y cyfranogwyr benderfynu sut maen nhw’n cwrdd, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, a pha mor aml, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u hargaeledd. Gallant hefyd ddewis y fformat sy’n gweithio orau iddyn nhw, boed hynny’n mentora unigol neu’n mentora grŵp, yn dibynnu ar faint a chapasiti eu sefydliad.
Y nod yw datblygu rhwydwaith parhaol lle gall cyflogwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu’r hyn sy’n gweithio, a gwneud llesiant yn rhan arferol o ddiwylliant bob dydd yn y gweithle.
Pam y dylech gymryd rhan nawr
Drwy ymuno ar y cam cyntaf hwn, byddwch yn helpu i lunio sut mae’r rhaglen lawn yn datblygu. Bydd cyfle gennych i ddylanwadu ar ei chyfeiriad a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion cyflogwyr ledled Cymru.
P’un a ydych chi eisiau cryfhau dull eich sefydliad o ymdrin ag iechyd a llesiant, neu’n dymuno rhannu eich profiad eich hun i gefnogi eraill, dyma’ch cyfle i gymryd rhan o’r cychwyn cyntaf.
Cofrestru eich diddordeb i fod yn rhan o Gam 1
Cysylltwch â ni i roi gwybod inni fod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid.
Byddwn yn cysylltu â chi i rannu rhagor o fanylion wrth i’r rhaglen ddatblygu.