Bluestone Resorts Ltd - Am Bluestone Resorts Ltd
“Mae Bluestone yn deall, trwy ofalu am les ei bobl a thrwy greu gweithlu hapus, y byddan nhw, yn eu tro, yn gofalu am y gwesteion sy’n aros, yn creu eiliadau a phrofiadau cofiadwy ac yn annog ymwelwyr i ddychwelyd.”
Mae cyrchfan gwyliau Bluestone wedi’i leoli yn Sir Benfro, gan ddenu dros 150,000 o westeion sy’n aros yn flynyddol ac mae’n cyflogi dros 700 o staff mewn ystod eang o wahanol alwedigaethau. Mae’r busnes yn ymfalchïo mewn creu profiad unigryw a gwahanol i westeion, wedi’i ddarparu gan dîm eithriadol. Gydag ethos ‘Mae Pob Un yn Cyfri’, mae Bluestone yn deall, trwy ofalu am les ei bobl a thrwy greu gweithlu hapus, y byddan nhw, yn eu tro, yn gofalu am y gwesteion sy’n aros, yn creu eiliadau a phrofiadau cofiadwy ac yn annog ymwelwyr i ddychwelyd a rhoi sylwadau cadarnhaol.
Mae gan bob aelod o’r tîm rôl mor bwysig i’w chwarae yng ngweithrediad dyddiol Bluestone a thrwy ganolbwyntio ar iechyd a lles ei bobl, nid yn unig y mae hyn yn lleihau lefelau absenoldeb ond mae hefyd yn meithrin amgylchedd gwaith lle gall unigolion ffynnu a pherfformio ar eu gorau.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025