Bluestone Resorts Ltd - Effaith a chyflawniadau
Gallwn lunio cydberthynas rhwng y nifer cynyddol sy’n defnyddio’r rhaglen gymorth i weithwyr, yn enwedig gwasanaethau cwnsela, a lleihad mewn absenoldebau sy’n ymwneud â straen, iselder a gorbryder. Mae hyn yn dangos bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael gwell cefnogaeth yn y gweithle a’u bod yn gallu parhau i fod yn y gwaith yn hytrach na bod yn absennol. Caiff hyn ei hwyluso ymhellach pan fydd rheolwyr yn cyflwyno addasiadau dros dro i gefnogi’r unigolyn lle y bo’n briodol.
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflawni Safon Aur Cymru Iach ar Waith ac mae’r adborth yn ein harolwg ym mis Mehefin 2021 sy’n nodi bod 85% o’n pobl yn credu bod lles gweithwyr yn flaenoriaeth ar gyfer y busnes a bod diwylliant lles cadarnhaol yn brawf o lwyddiant ein Rhaglen Les.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025