Bluestone Resorts Ltd - Iechyd meddwl a lles
Gwnaethom flaenoriaethu iechyd meddwl a lles gweithwyr trwy wneud y canlynol:
- Arwyddo addewid Amser i Newid Cymru
- Darparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a chadernid i reolwyr llinell a sicrhau bod sgyrsiau lles yn rhan o gyfarfodydd dal i fyny rheolaidd â staff
- Gwella ein rhaglen gymorth i weithwyr i gynnwys hunan-atgyfeirio i wasanaethau cwnsela wyneb yn wyneb
- Cyflwyno hyfforddiant cadernid personol ar gyfer staff sy’n dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cau oherwydd y pandemig
- Creu cylchlythyr gydag adran lles bob pythefnos gyda gwybodaeth, cyfeirio a chymorth ar gyfer iechyd meddwl da
- Mesur sut y mae aelodau o’r tîm yn teimlo trwy arolwg gwirio diogelwch wythnosol sydd wedi helpu i gyfeirio adnoddau a chymorth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025