Skip to content

Cartrefi Melin - Gwobr Cymeradwyaeth yn sgil COVID-19 Cymru Iach ar Waith

Mae Cartrefi Melin wedi’i nodi fel cyflogwr enghreifftiol ar gyfer yr astudiaeth achos hon ar iechyd meddwl a llesiant oherwydd ymagwedd gadarnhaol a pharhaus at wella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol gweithwyr.  Mae Cartrefi Melin wedi cyflawni Safon Iechyd Corfforaethol Platinwm (CHS) Cymru Iach ar Waith (HWW) ac mae’n Sefydliad ymrwymedig ar gyfer Amser i Newid Cymru (TtCW).

Ymunodd HWW a Llywodraeth Cymru â’i gilydd i ddathlu’r ffordd y camodd cyflogwyr Cymru i’r adwy i ofalu am iechyd a llesiant eu staff, cleientiaid a’r gymuned ehangach yn ystod y pandemig coronafeirws byd-eang drwy gynnal Digwyddiad Cymeradwyaeth COVID-19 ym mis Rhagfyr 2021.

Dyfarnwyd y ganmoliaeth fuddugol i Gartrefi Melin am yr Ymateb Gorau gan Gwmni BBaCh wrth Gefnogi Staff yn ystod pandemig Covid-19. Gwnaeth yr ystod o gymorth y mae Cartrefi Melin yn ei gynnig i’w staff drwy raglen llesiant ‘Zest’, a’r modd y gwnaeth addasu a gwella cymorth, argraff ar y panel o feirniaid. Roedd y panel beirniaid yn cynnwys CBI Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Siambrau Cymru, yn ogystal â TUC Cymru, Mind Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025