Cartrefi Melin - Camau Tuag at Lwyddiant
Mae rhaglen ‘Zest’ yn cael ei gwerthfawrogi gan y sefydliad a’r staff. Mae ei llwyddiant a’i hirhoedledd, fwy na thebyg, o ganlyniad i amrywiaeth o elfennau’n cydweithio’n gydlynol:
- Ymrwymiad gan uwch reolwyr ac aelodau bwrdd
- Nodi llysgenhadon staff
- Sefydlu gweithgor misol
- Ymrwymiad i iechyd meddwl a llesiant yn weladwy ar draws prosesau a strategaethau sefydliadol
- Ymgorffori llesiant yn y broses adolygu staff, gan gynnwys ysgogiadau i reolwyr
- Darparu ystod o weithgareddau rheolaidd, a gyflwynir mewn amrywiaeth o ffyrdd
- Neilltuo amser i staff ar gyfer gweithgareddau iechyd meddwl a llesiant
- Hyrwyddo ymgyrchoedd cenedlaethol fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Diwrnod Amser i Siarad drwy weithgareddau cysylltiedig ar gyfer staff
- Ymgysylltu a chynnwys sefydliadau allanol sy’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol at iechyd meddwl a llesiant staff, er enghraifft:
- Gweithdai ar gyfer rheolwyr i wella cymorth ar gyfer eu staff
- Sesiynau lles
- Darlithoedd
- Gweithdai
- Hyfforddiant iechyd meddwl penodol i staff sydd â chyfrifoldeb rheoli llinell
- Aelod o staff achrededig wedi’i hyfforddi i gael sgyrsiau effeithiol gyda staff am iechyd meddwl a llesiant
- Adran iechyd a llesiant bwrpasol ar safle mewnrwyd y staff
- E-byst misol yn hyrwyddo llesiant meddwl da yn y gweithle
- Coladu a hyrwyddo straeon staff i ddathlu cyflawniad ac ysbrydoli eraill
- Cyfeirio at wybodaeth a gwasanaethau
- Adnoddau ar-lein gan gynnwys recordiadau o unrhyw weithdai a gynhelir ar gyfer staff
- Ymgynghori rheolaidd â staff a chyfleoedd ar gyfer adborth, er enghraifft, sgyrsiau un-i-un, arolygon, cyfarfodydd a chyfleoedd galw heibio
- Cyfathrebu trwy amrywiaeth o ddulliau, er enghraifft, e-bost, mewnrwyd, cyfryngau cymdeithasol a sgriniau teledu
- Cyllideb bwrpasol ar gyfer gweithgareddau ‘Zest’
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Chwefror 2025