Cartrefi Melin - Ciplun: Gweithgareddau ac ymgyrchoedd 2021
Dechreuodd y gweithgareddau ym mis Ionawr er mwyn brwydro yn erbyn “melan mis Ionawr”. Anfonodd Cartrefi Melin flwch o nwyddau iach i bob aelod o staff fel syrpreis. Roedd gweithgareddau teimlo’n dda pellach wedi’u cynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn. Roedd staff yn gallu cymryd rhan mewn diwrnodau caredigrwydd cyfrinachol a oedd yn caniatáu i staff adael anrhegion cyfrinachol o amgylch y swyddfeydd i aelodau eraill o staff fel syrpreis.
Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd pedwar digwyddiad brecwast am ddim i annog staff i ddod at ei gilydd a sgwrsio.
Ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad ym mis Chwefror, cyflwynodd Cartrefi Melin ddigwyddiad rhithwir i staff ei fynychu, gan roi amser o’r diwrnod gwaith i staff i fachu paned, rhywbeth i’w fwyta a chael sgwrs gyda chydweithwyr. Yn ogystal, gofynnwyd i’r uwch dîm rheoli ymddangos mewn cyfres o fideos yn annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl y gellir eu gweld ar sianel YouTube (yn agor mewn ffenestr newydd):
“Mae ein huwch dîm rheoli yn siarad yn agored am eu hiechyd meddwl, sy’n gosod y naws ar gyfer gweddill y sefydliad.”
Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ym mis Mai, rhoddodd Cartrefi Melin danysgrifiad i ‘Headspace’ i’r holl staff, gan gynnwys aelodau’r bwrdd – canllaw personol i ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrdod, cwsg, ymarfer corff a mwy.
“Mae adborth gan staff wedi dangos bod yr ap yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn. Mae gweithgareddau fel podlediadau cwsg a myfyrdod ymhlith y pethau mwyaf poblogaidd i’w gwneud ar yr ap.”
Enghreifftiau o weithdai
Maeth – Cyflwynwyd pedair sesiwn faethiad yn y Zest: Staying Healthy Event yn 2021 gan therapydd maeth i gefnogi egni, iechyd meddwl a gwytnwch.
- Maeth – Cyflwynwyd pedair sesiwn faethiad yn y Zest: Staying Healthy Event yn 2021 gan therapydd maeth i gefnogi egni, iechyd meddwl a gwytnwch.
- Cynnal Egni Cytbwys– Roedd y sesiwn hon yn ymdrin â threfn fwyta y gellir ei haddasu i anghenion unigol er mwyn cefnogi lefelau egni a ffocws
- Rheoli Straen a Hybu Hwyliau– Roedd y sesiwn hon yn ymdrin â’r hyn sy’n digwydd pan fyddwn dan bwysau a sut i fwyta i hybu gwytnwch a hwyliau
- Cefnogi Imiwnedd– Roedd y sesiwn hon yn ymdrin â phethau syml yn ymwneud â deiet a ffordd o fyw i hybu imiwnedd, a pham nad atchwanegiadau yw’r peth pwysicaf
- Cysgu’n Dda– Roedd y sesiwn hon yn ymdrin â pham mae cwsg yn bwysig, y pethau a allai fod yn ein cadw’n effro a’r pethau sy’n gwella cwsg
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025