Cartrefi Melin - Effaith ar Iechyd a Llesiant Staff
Mae arolygon staff wedi amlygu sut mae menter ‘Zest’ wedi galluogi llawer o staff i wella eu hiechyd a’u llesiant a gwneud nifer o newidiadau cadarnhaol gan gynnwys:
- Bod yn fwy actif
- Rhoi’r gorau i ysmygu
- Gwneud dewisiadau bwyd iachach
- Bod o dan llai o straen
- Dysgu sgiliau newydd
O ganlyniad i’r newidiadau hyn, profodd Cartrefi Melin y canlynol:
- Gwelliannau yn lefelau ymgysylltiad staff
- Lefelau boddhad staff uwch ar draws y cwmni
- Er gwaethaf y pandemig, arhosodd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn is na 5% yn ystod 2021 ac roeddent i lawr i 2.2% ym mis Mai 2022
- Wedi’i gydnabod yn swyddogol fel un o gwmnïau gorau’r DU i weithio iddo, gan ymddangos ar restr ‘Best Companies to Work For’ y Sunday Times yn 2021:
- Rhif 87 yn y ‘100 Best Large Companies to Work For’ yn y DU
- Rhif 6 yn y ’25 Best Associations to Work For’ yn ‘Housing’ yn y DU, a Rhif 1 yng Nghymru!
- Rhif 20 yn ‘Wales’ 30 Best Companies to Work For’
“Yn ddiweddar fe wnaethom ofyn i staff a oeddent yn teimlo bod Cartrefi Melin yn gofalu am eu hiechyd a’u llesiant a dywedodd 99% o’r staff ‘ydyn’!”
“Cytunodd 91% o’r staff y gallent wneud cyfraniad gwerthfawr i lwyddiant y sefydliad.”
“Er gwaethaf gweithio gartref a byw trwy bandemig, mae 89% o staff yn hapus gyda’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref.”
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19th Mawrth 2025