Skip to content

Cartrefi Melin - Y Fenter ‘Zest’

Lansiwyd ‘Zest’ ym mis Medi 2011 gan fod Cartrefi Melin eisiau helpu i wella iechyd a llesiant staff. Daeth staff ac aelodau’r bwrdd ynghyd i ffurfio gweithgor ‘Zest’ sy’n cyfarfod yn fisol i gynllunio gweithgareddau a gweithredu fel llysgenhadon. Mae ethos ‘Zest’ yn sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant yn llinyn cyffredin drwy bob agwedd ar y sefydliad. Mae’r fenter yn cael ei hyrwyddo gan staff ar bob lefel, gan gynnwys lefel uwch reolwyr a bwrdd.

“Mae ‘Zest’, ein menter iechyd a llesiant staff, yn llinyn cyffredin trwy bopeth a wnawn yng Nghartrefi Melin.”

“Mae gennym ni 17 o lysgenhadon ‘Zest’ ar draws Cartrefi Melin i sicrhau bod gennym ni gynrychiolwyr o bob adran.” 

Mae ‘Zest’ yn cael ei gefnogi’n llawn gan ein Uwch Dîm Rheoli a’n Bwrdd wrth iddynt hyrwyddo a chymryd rhan yn weithredol, gan annog eu timau i gymryd seibiant drostynt eu hunain hefyd.”

Mae Cartrefi Melin yn darparu digwyddiad iechyd a llesiant blynyddol Zest Fest, y rhoddir yr amser i bob aelod o staff fynychu, gan ddarparu brecwastau, dosbarthiadau ymarfer corff, sesiynau maldodi a gweithdai crefft am ddim. Mae partneriaid o sefydliadau eraill hefyd yn bresennol i ddarparu sesiynau, cymorth a chyngor. Yn ogystal, cynhelir gweithgareddau rheolaidd i staff gan gynnwys boreau smwddi, brecwast iach, sesiynau codi ymwybyddiaeth, tylino ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Yn ystod y pandemig byd-eang, cafodd ‘Zest’ ei addasu a’i wella drwy weithgareddau newydd, yr oedd llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar-lein. Yn eu plith roedd cyfarfodydd rhithiol, sesiynau galw heibio am bynciau penodol, gwiriadau iechyd, gwasanaethau cwnsela, cynlluniau beicio i’r gwaith, beiciau cronfa, cynlluniau cydnabod staff a phlannu coed ar gyfer anwyliaid. Roedd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys hyfforddiant gwydnwch a sicrhau bod gan staff fynediad am ddim i ap ymwybyddiaeth ofalgar. O ganlyniad i hyn mae ‘Zest’ wedi helpu i lunio ymateb y cwmni i COVID-19 ac mae wedi cefnogi gweithwyr trwy amgylchiadau heriol.

Rydym bob amser yn adnewyddu’r hyn rydym yn ei wneud ac yn ymgynghori â staff. Rydym eisoes yn gwneud llawer, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud ac yn chwilio am ffyrdd arloesol newydd o ymgysylltu â staff.”

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19th Mawrth 2025