Cofrestrfa Tir EM Abertawe - Am Cofrestrfa Tir EM Abertawe
Mae Cofrestrfa Tir EM yn adran anweinidogol yn ogystal â chorff partner yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac fe’i sefydlwyd ym 1862. Mae Cofrestrfa Tir EM yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo gwerth £7 triliwn, gan alluogi sicrhau gwerth dros £1 triliwn o fenthyca personol a masnachol yn erbyn eiddo ledled Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys mwy na 26 miliwn o deitlau sy’n dangos tystiolaeth o berchnogaeth ar gyfer mwy nag 87% o dirfas Cymru a Lloegr. Rhaid i unrhyw un sy’n prynu neu’n gwerthu tir neu eiddo, neu’n cael morgais, wneud cais i ni gofrestru.
Ar hyn o bryd mae Cofrestrfa Tir EM yn cyflogi tua 6,393 o bobl mewn 14 lleoliad, gyda 650 yn cael eu cyflogi gan uned fusnes Abertawe gyda staff sy’n gweithio yn y swyddfa ac o bell.
Mae ein Strategaeth Pobl yn rhan allweddol o Strategaeth Fusnes y sefydliad ac mae’n cynnwys Fframwaith Presenoldeb, Iechyd a Lles i sicrhau bod Cofrestrfa Tir EM yn lle gwych i weithio. Mae’r cynllun cyflenwi cysylltiedig yn cwmpasu’r holl feysydd gan gynnwys gofyniad bod gan bob uned fusnes Bwyllgor Iechyd a Lles. Mae hyn yn ffurfioli’r strwythur sydd ar waith yn lleol er 2002 pan sefydlodd Abertawe Bwyllgor Hybu Iechyd gyntaf i gefnogi’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth lleol i ymgymryd â mentrau hybu iechyd a sicrhau bod yr holl bolisïau, cenedlaethol a lleol, yn cwmpasu dull cyfannol o gynorthwyo staff i fod yn ffit, yn iach ac yn y gwaith.
Tan yn ddiweddar iawn, mae ein gweithlu wedi bod yn un sy’n heneiddio, gan ddod â heriau wrth gefnogi staff trwy absenoldeb salwch tymor byr a thymor hir mewn ffordd reoledig a chefnogol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025