Cofrestrfa Tir EM Abertawe - Gwella rheoli absenoldeb salwch
Dechreuodd ein taith i wella absenoldeb salwch yn 2008 gyda strategaeth iechyd a lles staff.
Bryd hynny, cyfartaledd nifer y diwrnodau absenoldeb salwch bob blwyddyn ar gyfer pob unigolyn oedd 16.
Ymhlith y gweithredoedd roedd:
- Mwy o ddarpariaeth iechyd galwedigaethol gan gynnwys sgrinio iechyd unigol gydag argymhellion i unigolion a thîm arweinyddiaeth y swyddfa – mae hyn wedi parhau ac mae’r adroddiadau dros amser yn dangos y gwelliannau a wnaed i reoli lles staff
- Mae’r Pwyllgor Hybu Iechyd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion allweddol o leihau ysmygu, mynd i’r afael â straen ac annog mwy o ymarfer corff a bwyta’n iach
- Iechyd a lles yn eitem sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gan gynnwys monitro data perthnasol
- Hyfforddiant i reolwyr llinell a chyflwyno fforwm rheolwyr llinell i drafod heriau ac atebion
- Sicrhau bod mesurau priodol o dan y polisi absenoldeb salwch yn cael eu defnyddio i gynorthwyo staff yn ôl i’r gwaith gan gynnwys dychwelyd yn raddol i’r gwaith, sgyrsiau dychwelyd i’r gwaith a chyflwyno addasiadau rhesymol
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025