Cofrestrfa Tir EM Abertawe - Ymrwymiad i Les Meddyliol Staff
Trwy gydol ein taith bu’r effaith fwyaf sylweddol ar iechyd meddwl a lles meddyliol. Gan ddefnyddio cyngor a chefnogaeth Cymru Iach ar Waith, mae swyddfa Abertawe wedi pwyso am newid ar lefel genedlaethol gan gynnwys sefydlu polisi straen a dylanwadu ar y Strategaeth Pobl genedlaethol, eirioli dros gyflwyno Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a gwell hyfforddiant i’r aelodau o staff a rheolwyr llinell. Cefnogir hyn gan fforymau rheolwyr llinell rheolaidd a chefnogaeth gyffredinol gan ein Huwch Dîm Arweinyddiaeth.
Mae’r pandemig wedi dod â heriau newydd yn enwedig ym maes lles meddyliol staff a’n neges o’r dechrau fu pwysigrwydd gofalu am les yr holl staff. Mae’r ymrwymiad hwn yn rhedeg trwy’r sefydliad cyfan ac ym mhopeth a wnawn. Mae cyfathrebu da yn allweddol i’r cyfan ac mae ein bwletin staff wythnosol yn parhau i roi cyngor a chefnogaeth hanfodol i helpu staff i gadw’n heini, yn iach ac yn y gwaith, ond, yn anad dim, yn ddiogel. Fel y dywedodd aseswyr Gwobr Cymru Iach ar Waith wrthym, ‘rydym yn deall’.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025