Meithrinfa Abacus Abertawe - Am Meithrinfa Abacus Abertawe
“Rydym yn cyfeirio staff at wasanaethau perthnasol os oes angen ac yn tynnu sylw at wybodaeth ac ymgyrchoedd penodol yn ystod cyfarfodydd. Mae hyn yn rhoi cychwyn da ar gyfer sgwrsio am wahanol safbwyntiau a syniadau ar faterion iechyd meddwl.”
Mae meithrinfa Abacus wedi’i lleoli yn ardal Pantygwydr yn Abertawe. Mae’n gweithredu mewn amgylchedd cartrefol o dŷ wedi’i addasu ac mae’n cynnig darpariaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Gallwn gymryd hyd at 43 o blant bob dydd ac mae gennym 18 aelod o staff.
Rydym yn gweithredu mentrau Llywodraeth Cymru gan gynnwys cwricwlwm datblygiadol y Cyfnod Sylfaen a Chynllun Gwên, sef rhaglen hybu iechyd y geg. Yn ogystal â Gwobrau Efydd ac Arian Iechyd y Gweithle Bach Cymru Iach ar Waith, rydym wedi cyflawni ein gwobr Ansawdd i Bawb, gwobr Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, Gwobr Meithrinfa Ddiogel yn yr Haul, Gwobr Corff Iach, Meddwl Iach, Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur a 5 seren am Iechyd yr Amgylchedd. Ym mis Mai 2019, gwnaethom ennill y Lleoliad Blynyddoedd Cynnar Gorau yng Nghymru (a ddyfarnwyd gan Blynyddoedd Cynnar Cymru).
Rydym yn buddsoddi yn iechyd a lles ein haelodau staff, er enghraifft trwy gynnig dosbarthiadau ioga wythnosol gydag athro cymwys, a chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus trwy gyrsiau a hyfforddiant a gymeradwyir yn ddibynadwy.
Nod Meithrinfa Abacus yw:
- Darparu dull cyfannol sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae plant yn cael eu hannog i ddatblygu mewn amgylchedd sy’n eu meithrin
- Darparu gofal dydd o ansawdd uchel sy’n gwella datblygiad, gofal ac addysg plant cyn-ysgol mewn amgylchedd diogel ac ysgogol lle maen nhw’n dysgu trwy chwarae
- Trin plant fel unigolion a gwrando ar lais y plant fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- Cefnogi rhieni a’u cynorthwyo i ddeall a darparu ar gyfer anghenion eu plant
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025