Meithrinfa Abacus Abertawe - Cyfeirio at gymorth
Mae cyflawni Gwobr Arian Cymru Iach ar Waith a gweithio tuag at y Wobr Aur wedi agor ein llygaid i’r ystod eang o sefydliadau a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a lles sydd ar gael ar lefel leol a chenedlaethol.
Rydym yn cyfeirio staff at wasanaethau perthnasol os oes angen ac rydym yn tynnu sylw at wybodaeth ac ymgyrchoedd penodol yn ystod cyfarfodydd. Mae hyn yn rhoi cychwyn da ar gyfer sgwrsio gydag aelodau staff am wahanol safbwyntiau a syniadau ar faterion iechyd meddwl.
Mae gennym bolisïau cynhwysfawr ar bynciau a allai effeithio ar iechyd meddwl fel bwlio ac aflonyddu ac yn ystod y broses Gwobr Arian gwnaethom ganolbwyntio ar y rhain ynghyd â chyfoeth o wybodaeth arall a gyfeiriwyd atom trwy Cymru Iach ar Waith.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025