Skip to content

Meithrinfa Abacus Abertawe - Hybu iechyd meddwl a lles staff

Mae defnyddio Olwyn Lles gyda staff yn ganolog i’n dull – mae’r Olwyn yn canolbwyntio ar bob agwedd ar fywyd sy’n effeithio ar iechyd meddwl unigolyn gan gynnwys ei fywyd gwaith. Mae staff yn ei chwblhau yn ein cyfarfodydd lles rheolaidd ac mae hyn yn arwain at gyfleoedd i reolwyr llinell drafod unrhyw faterion sy’n cyfrannu at straen a nodir mewn ymatebion unigol. Rydyn ni bob amser yn rhoi gwybod i staff ein bod ni yma i gefnogi ni waeth beth yw eu hanghenion.

Mae cyfathrebu dwy ffordd â staff hefyd yn rhan allweddol o’n strategaeth. Rydym yn defnyddio cyfarfodydd staff rheolaidd a grŵp WhatsApp staff i dynnu sylw at gyflawniadau unigol ac ar y cyd a dathliadau fel penblwyddi ac i drefnu cyfleoedd i ddod at ein gilydd. Yn ystod y pandemig, arhosodd y feithrinfa ar agor – roedd staff yn yr adeilad yn cael sgyrsiau rheolaidd ac roedd aelodau o staff ar ffyrlo yn galw heibio am sgyrsiau gydag aelodau eraill o staff.

Mae ein grŵp WhatsApp yn caniatáu i staff rhan-amser ac amser llawn wybod beth sy’n digwydd yn y feithrinfa, beth yw eu rôl nhw, a’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Mae’n rhoi ymdeimlad o berthyn i bawb a gallwn rannu gwybodaeth am ddod o hyd i gefnogaeth os oes ei hangen ar unrhyw un. Mae cynnwys yr holl staff trwy’r sianel hon wedi bod yn werth chweil gan ei fod yn codi calonnau staff. Mae gan ein rheolwyr bolisi drws agored hefyd fel y gall pob aelod o staff gysylltu â ni i drafod unrhyw faterion sydd ganddyn nhw neu heriau y gallen nhw fod yn eu hwynebu.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Mawrth 2025